Gwyddbwyll/Nodiant

Oddiwrth Wicillyfrau

Neidio i: llywio, chwilio

Mae termau gwyddbwyll Cymraeg safonol ar gael ac mae rheswm dros y dewis o derm:

King = Teyrn (T) Queen = Brenhines (B) Bishop = Esgob (E) Knight = Marchog (M) Rook = Castell (C) Pawn = Gwerinwr

Mae nifer o aelodau tim gwyddbwyll Cymru erbyn hyn yn cofnodi eu gemau drwy ddefnyddio nodiant Cymraeg ee Bb1 (symud y Frenhines i sgwar b1). Dyna pam mae Teyrn yn cael ei ddefnyddio yn lle Brenin gan y byddai'n cymysgu gyda Brenhines ee Tb1 etc.. Does dim angen symbol ar y Gwerinwr - pan yn symud gwerinwr o sgwar a2 i a4 y nodiant yw a2-a4, neu'n symlach fyth a4 (!)

Mae en passant yn cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr Cymraeg, a Siach am Check a Siachmat am Checkmate - sy'n agos at y gwreiddiol (datblygodd y gair siach drwy Arabeg o Bersieg: shāh = "teyrn"). Nodiant wrth gofnodi Siach yw + ee Marchog ar e5 yn symud i d3 i roi Siach - Me5-d3+. Mae'r term J'adoube yn cael ei ddefnyddio pan yn cyffwrdd mewn darn i'w roi yn drefnus ar sgwar heb y bwriad o'i symud - mae llawer o anghytuno am darddiad hwn - ond ia-dwwb yw'r ynganiad.

Offer personol