Hanes Cymru/Cyfnod y Rhufeiniaid

Oddiwrth Wicillyfrau

Neidio i: llywio, chwilio


Hanes Cymru
Arfbais Cymru.png
Cynnwys llawn
Unedau
Atodiadau
  1. Llinellau Amser
  2. Archaeoleg Cymreig

Mae'n debyg mai un o'r rhesymau i'r Rhufeiniaid ddod i Gymru oedd y presenoldeb o fetalau gwerthfawr. Cawsant gopor ar Fynydd Paris, Ynys Môn, arian a phlwm yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Gwent, ac aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin.

[golygu] Goresgyniad y Rhufeiniaid

Llwythi Cymru ar adeg goresgyniad y Rhufeiniaid.

[golygu] Caerllion

Roedd caer Isca Silurum (Wysg y Silures) yn un o tair o geyrydd llengol Prydain. Cafodd ei sefyldu yn c.OC 75 ac adeiladwyd yn wreiddiol fel amddiffynfa bren a thywarchen i anheddu'r 5600-cryf Ail Leng Augusta. Roedd safle'r caer ger y ffordd Rufeinig ar draws de Cymru ac ar lannau aber llanw'r Wysg yn golygu ei bod hi'n hygyrch i dir a môr. Cafodd ei hailadeiladu yn c.OC 100 ac efo'i waliau, pencadlys llengol, barics, baddonau ac ysbyty, dilynnodd patrwm safonol ceyrydd llengol Rhufeinig. Er fod y rhan fwyaf yn gorwedd o dan y phentref modern, mae wedi cael ei adeiladu drosto'n llai na'r rhan fwyaf o geyrydd llengol Ewrop. Felly, mae mwy o Isca Silurum yn agored i'w weld nag, er enghraifft, Efrog neu Gaer. Rhan fwyaf nodedig Caerllion yw'r amffitheatr, a gafodd ei chloddio gan archaeolegwyr yn 1926.

Gweddillion caer Rufeinig Caerllion.