Hanes Cymru/Oes y Seintiau
Oddiwrth Wicillyfrau
Hanes Cymru![]() Cynnwys llawn |
| Unedau |
| Atodiadau |
Daeth Cristnogaeth Cymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd Sant Dyfrig yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd.
[golygu] Dewi Sant
Ni wyddom lawer am nawddsant Cymru. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf. Dywed traddodiad iddo gael ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron. Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Mynyw (Menevia). Mae bron pob peth a wyddom amdano yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhygyfarch tua 1100.
