Hanes Cymru/Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Oddiwrth Wicillyfrau
Hanes Cymru![]() Cynnwys llawn |
| Unedau |
| Atodiadau |
[golygu] Brad y Llyfrau Gleision
Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym Merthyr, y Siartwyr a Merched Beca - roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r Gymraeg a diffyg addysg (Saesneg) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion. Comisiynwyd adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru gan senedd San Steffan, yn dilyn cais gan Williams Williams AS Coventry (ond Cymro o Lanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin, yn wreiddiol) er mwyn ddarganfod mwy am y mater a ddehongli'r sefyllfa.
Cyflwynwyd yr adroddiad terfynnol yn haf 1847 - derbynnodd enw'r Llyfrau Gleision ar ôl lliw'r clawr glas a roddwyd arnynt. Bu'r adroddiad gan dri Eglwyswr Seisnig na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu moesoldeb ac am natur cyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Dywedir ei fod yn anfoesol, diog a'n anwybodus, a rhoddodd y fae arno'r iaith a natur anghydffurfiol y bobl. Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu.
Un o'r bethau dywedodd yr adroddiad am y Gymraeg oedd:
The Welsh language is particularily evasive, which originates from its having been the language of slavery.
