Hanes Cymru/Yr Ugeinfed Ganrif
Oddiwrth Wicillyfrau
Hanes Cymru![]() Cynnwys llawn |
| Unedau |
| Atodiadau |
Mi oedd yr ugeinfed ganrif yn can mlynedd llawn digwyddiadau i Gymru. Roedd diwydiant a chynydd yn yn cymryd y wlad a ddaeth cenedlaetholdeb a wladgarwch y Cymry nôl i ennill rhywfaint o annibyniaeth ac i sicrhau dyfodol i'r iaith.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Diwydiant
Erbyn 1911 roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y rheilffyrdd a'r dociau. ddechrau'r ugeinfed ganrif disodlwyd haearn gan ddur fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith copor yn 1911 ac 21,000 mewn gwaith tin. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blat tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o lo yn 1913. Roedd Cymru yn allforio trydedd rhan o holl allforion y byd gan gyflogi 250,000.
Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y maes glo. Yn 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn 1990au.
Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwy fwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth.
Un o ganlyniad y dirywiad yn y maes glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychineb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
[golygu] Y Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu] Yr Ail Rhyfel Byd
[golygu] Tryweryn
[golygu] Trychineb Aberfan
Ar 21 Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen glo o lethrau'r bryniau uwchlaw pentref Aberfan ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful gan gladdu ysgol gynradd Pantglas ac ugain o dai. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant.
Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynwyd i dalu iawndal i deuluoedd y meirw. Darganfuwyd fod y tomen glo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethwyd dim am y mater. Caewyd y pwll glo ym 1990.
[golygu] S4C
[golygu] Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Deddf a sefydlodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i hwyluso a hybu'r defnydd o'r Gymraeg oedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Yr oedd y ddeddf yn rhoi hawl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru apwyntio 15 aelod o'r Bwrdd. O dan y ddeddf yr oedd rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus o dderbyn gorchymyn oddi wrth y Bwrdd i baratoi cynllun iaith a oedd yn ddiweddarach i'w gymeradwyo gan y Bwrdd.
Mae’r ddeddf hon wedi bod yn bwnc llosg ers cyn ei derbyn. Cafodd Deddf Iaith 1993 ei phasio gan fwyafrif ond ni wnaeth mwyafrif ASau Cymru ei chefnogi. Yn wir, ni fyddai wedi llwyddo oni bai am gefnogaeth Torïaid o Loegr. Yn y nawdegau, cyfeiriwyd ati fel enghraifft glasurol pam yr oedd angen datganoli a Chynulliad i Gymru. Beirniedir y ddeddf gan rai am nad oes gorfodaeth ar y sector breifat i gydymffurfio â’i gofynion.


