Cymorth "captcha"

Yn anffodus, mae safleoedd gwe fel y wici hon, sy'n caniatau i'r cyhoedd ysgrifennu iddi, yn darged beunyddiol i sbamwyr sy'n defnyddio rhaglenni arbennig i bostio eu cysylltiadau ar wefannau lu. Gellir dileu'r dolenni o'r tudalennau, ond byddai hynny'n waith trafferthus.

O dro i dro, yn enwedig wrth ychwanegu dolenni at safleoedd gwe eraill, fe fydd y safle hon yn dangos delwedd o destun, ac fe fydd yn rhaid i chi deipio'r geiriau a ddangosir. Mae hyn yn dasg anodd iawn i raglenni cyfrifiadurol, felly dylai'r rhan fwyaf o olygwyr go iawn gyflawni'r dasg yn ddi-drafferth, yn wahanol i'r rhaglenni sbam.

Yn anffodus, mae hyn yn creu trafferthion i'r rhai sydd yn defnyddio porwyr testun neu borwyr sain, neu sydd yn colli eu golwg. Ar hyn o bryd nid oes fersiwn sain ar gael. Cysylltwch â gweinyddwyr y safle os ydi'r nodwedd hon yn eich rhwystro rhag ychwanegu golygiadau dilys.

Gwasgwch botwm 'nôl' eich porwr er mwyn dychwelyd at y dudalen golygu.