Barddoniaeth/Soned

Oddiwrth Wicillyfrau
Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia mwy ar y pwnc yma:

Cerdd delynegol bedair llinell ar ddeg yw soned.

Pwrpas soned yw i fynegi un syniad neu deimlad mewn un gerdd.

Ysgrifennir y soned yn y mesur pumban dyrchafedig neu iambig, gyda deg sill i bob llinell a phwyslais ar bob yn ail sill (da-DA da-DA da-DA da-DA da-DA).

Y ddau brif fath o soned yw'r soned Eidalaidd neu Betrarchaidd a'r math Shakespearaidd.

Soned Eidalaidd[golygu]

Patrwm odl y soned Eidalaidd yw:

A B B A; A B B A; C CH D; C CH D.

Rhenni yn wythawd (sef dau bennill pedair llinell) ac yn chwechawd (sef dau bennill tair llinell).

Soned Shakespearaidd[golygu]

Patrwm odl y soned Shakespearaidd yw:

A B A B; C CH C CH; D DD D DD; E E.

Rhennir yn dri phennill pedair llinell, a chwpled i'w chloi.

Enghraifft o soned Shakespearaidd yn y Gymraeg yw Y Llwynog gan R. Williams Parry.

I ysgrifennu soned Shakespearaidd, cynlluniwch thema a throsiad i'ch pennill pedair llinell cyntaf.

Ar gyfer yr ail bennill pedair llinell, datblygwch ac ehangwch thema'r soned a throsiad y pennill cyntaf mewn modd dychmygol.

Yn y trydydd bennill pedair llinell, ceir trobwynt y soned. Yn aml defnyddir gair megis "ond", "er", "pan" ayyb i arwyddo hyn, gan amlaf yn nawfed linell y gerdd.

Yn eich cwpled, rhaid rhoi casgliad cryf i'r soned, ac o bosib darganfyddiad.

Wrth ysgrifennu geiriau eich soned, defnyddiwch thesawrws os oes gennych diffyg neu ormodedd o sillau yn eich llinellau er mwyn darganfod geiriau amgen.

Fel gydag unrhyw waith arall o ysgrifennu creadigol, adolygwch ac ailddrafftiwch eich soned.

Adnoddau[golygu]

Darllenwch gwaith sonedwyr eraill am ysbrydoliaeth. Dyma rhai o'r enwocaf:

  • Cymraeg: R. Williams Parry, T. H. Parry-Williams.
  • Saesneg: William Shakespeare, Elizabeth Barret Browning, William Wordsworth, Christina Rossetti.
  • Eidaleg: Francesco Petrarca, Dante Alighieri.