Beth i wneud mewn daeargryn
Gwedd
Beth ddylech chi wneud mewn daeargryn?
[golygu]Os ydych yn byw mewn ardal lle ceir daeargrynfeydd, mae yna nifer o bethau y gallwch wneud er mwyn amddiffyn eich hun cyn, yn ystod, ac ar ôl daeargryn. Y ddau brif nod yw sicrhau nad yw eich tŷ na'i gynnwys yn beryglus a bod eich tŷ yn rhywle y medrwch fyw ynddo'n annibynnol am ychydig ddyddiau tan fod y gwasanaethau brys yn gallu eich helpu.
Cyn y ddaeargryn:
- Trefnwch fod peirannydd yn dod i weld pa mor gadarn yw strwythur y tŷ. Sicrhewch fod darnau gwahanol o'r lloriau, y waliau a'r seiliau wedi'u cysylltu â'i gilydd.
- Rhowch fraced er mwyn cysylltu'r simne â'r to.
- Sicrhewch nad yw eitemau trwm wedi'u storio mewn mannau uchel. Symudwch nhw i fan îs er mwyn eu hatal rhag syrthio.
- Bolltwch ddodrefn trwm i'r waliau gyda bolltiau, sgriwiau neu golfachau strap.
- Amnewidiwch bylbiau golau halogen gyda bylbiau fflwroleuol er mwyn lleihau'r risg o dân.
- Gwiriwch fod y pibellau nwy wedi eu gwneud o ddefnydd hyblyg er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwygo.
- Dylai pawb yn y cartref fod yn gwybod sut i ddiffodd y cyflenwad nwy.
- Paratowch git daeargryn gyda digon o ddŵr a bwyd am dridiau o leiaf. Dylech gynnwys radio a batris hefyd.
- Gosodwch fflachlampau dros y tŷ i gyd fel bod un ar gael ar bob adeg. Rhowch un yn nhu blaen eich car hefyd.
- Cadwch nifer o ddiffoddwyr tân o amgylch y tŷ i ddelio ag unrhyw danau bychain.
- Gwnewch yn siwr fod cit cymorth cyntaf gennych yn gyfleus.
- Cynlluniwch sut y byddwch yn gadael eich cartref a ble y byddwch yn ymgynnull ymlaen llaw. Peidiwch cynllunio gyrru ar heolydd sydd yn debygol o fod wedi'u difrodi.
Yn ystod y daeargryn:
- Os ydych mewn adeilad, ewch ar y llawr o dan ddesg neu fwrdd cadarn, amddiffynnwch eich pen ac arhoswch yno.
- Osgowch ffenestri a drychau oherwydd gallant gwympo a glanio arnoch. Osgowch ddodrefn mawr allai syrthio arnoch.
- Os nad yw'r adeilad yn ddiogel, ewch tu allan cyn gynted a phosib. Rhedwch i fan agored, yn ddigon pell o adeiladau a gwifrau trydan allai ddisgyn arnoch.
- Os ydych mewn car, arhoswch yn y car ac osgowch adeiladau a allai gwympo e.e. pontydd, adeiladau, trosffyrdd.
Ar ôl y ddaeargryn:
- Cofiwch mae'n debygol y bydd ôl-dirgryniadau.
- Osgowch ardaloedd peryglus fel llethrau bryniau lle gallai tirlithriad ddigwydd.
- Diffoddwch y dŵr a'r trydan i'ch cartref.
- Defnyddiwch eich ffôn mewn argyfwch yn unig. Bydd nifer o bobl gydag anghenion difrifol iawn yn ceisio cysylltu â'r gwasanaethau brys.
- Byddwch yn barod i aros am gymorth neu gyfarwyddiadau. Cynorthwywch bobl eraill os oes angen.