Llyfr Coginio:Cacen 1-2-3-4
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Llyfr coginio:Cacen 1-2-3-4)
Rysáit Americanaidd traddodiadol ar gyfer cacen 1-2-3-4, sy'n fath syml o gacen felen.
Cynhwysion
[golygu]- 1 cwpanaid (240 mL) menyn
- 1 cwpanaid (240 mL) llaeth
- 2 gwpanaid (480 mL) siwgr
- 3 cwpanaid (720 mL) blawd
- 3 llwy de (15 mL) powdr codi,
- 3 pinsiaid halen
- 4 wy
Dull (yn gryno)
[golygu]- Cynheswch y ffwrn i 175 °C (350 °F)
- Hufennwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd nes eu bod yn gymysgedd ysgafn.
- Curwch yr wyau i mewn i'r gymysgedd.
- Yn raddol, sifftiwch y cynhwysion sych, gan ychwanegu ychydig laeth am yn ail.
- Trosglwyddwch y gymysgedd i badell sydd wedi'i iro a'i flawdio.
- Pobwch ar dymheredd o 175 °C (350 °F), nes y bydd sgiwar a gaiff ei roi yn y gacen yn medru cael ei dynnu allan heb unrhyw friwsion llaith.
Dull (manwl)
[golygu]Paratoi
[golygu]Bydd angen y canlynol arnoch:
-
Y cynhwysion. (Ni ddangosir yr halen yma)
-
Offer coginio: curwyr, bowlen fawr, cwpan fesur a thun cacen mawr. Tafol opsiynol.
-
Ffwrn, wrth gwrs!
Dull
[golygu]-
1. Cynheswch eich ffwrn ymlaen llaw.
-
2. Hufennwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd.
-
3. Craciwch yr wyau, a churwch hwy i mewn i'r gymysgedd hefyd
-
Ar ôl ychwanegu'r wyau, dylai edrych fel hyn
-
4. Nawr ewch i hol y blawd a'r llaeth
-
5. Cymysgwch ychydig o'r blawd ynddo.
-
6. Yna ychydig o laeth.
-
Ail-adroddwch camau 5 a 6 nes ei fod wedi gorffen. Erbyn hyn dylai'r gymysgedd fod yn llyfn iawn.
-
7. Arllwyswch y gymysgedd i mewn i dun sydd wedi'i iro a'i flawdio, a rhowch y tun yn y ffwrn
-
8. Gwirio i weld os yw'r gacen yn barod: rhowch gyllell mminiog neu sgiwar i mewn i ganol y gacen
-
Os yw'r gyllell yn frwnt - mae'r gymysgedd dal yn wlyb ac mae angen mwy o goginio arno! (Roedd hyn ar ôl 15 munud. Mae angen tipyn mwy o amser arno)
-
O'r diwedd, rydych chi wedi gorffen! Sylwer pa mor frown yw top y gacen, o ganlyniad i'r ganran uchel o siwgr